ffosil

Trodd Cat bant o’r brif ffordd, haul Rhagfyr yn finiog ar ambell wal a’n tywyllu lleill, yn dal y coed noeth yn llachar. Straenio naeth ei char bach lan cafn y lôn ddwfn, y coed a’r perthi’n sgerbydau heblaw am iorwg trwchus. Llethrau araf o fryniau yn codi o bentrefi hir yn y cymoedd islaw, cyn torri’n sydyn ar ewin o glogwyni a chreigiau a syrthio lawr i’r cwm nesaf. Roedd hi ar frig ton, môr wedi ei rhewi. Dyna oedd y tir, go iawn, na? Môr oedd hwn i gyd yn yr oes Ordoficaidd, nage? Er doedd hi ddim wir yn deall sut oedd hwna’n gweithio. Roedd hi’n bosib ffeindio ffosiliau o anifeiliad môr ar y mynyddoedd. Roedd y goedwig eitha uchel lan, ond ffosils o rhedyn bydde ddi’n ffeindio fan ‘na.

Naeth hi ddweud i Eve ‘se ddi’n mynd a hi i hela ffosils rhywbryd. Ond odd hi’n brysio bore ma a’n desperate i adael y tŷ rhag bygythiad prynhawn byr y gaeaf – yr angen i neidio mewn i’r car a drifo. Dylse hi fod wedi gofyn i rhywun ddod da ddi – Ffi neu Karlie, falle. Se Eve di bod yn keen, os oedd hi di dihuno ‘to. Ond se ddi di aros am hwna i gyd, text ac ymateb a pigo pobol lan, se ddi byth di gadael y tŷ. Oedd rhaid i ddi neud y mwya o’r goleuni prin pan oedd dal amser. Dyna’r broblem ‘da gaea’r wlad hon, y dyddiau mor fyr a’r cilfach o oleuni yn mynd yn llai a llai, bob blwyddyn. Rheswm arall i adael y wlad.

Cerddodd yn gyflym ar ôl parcio’r car, ond dechreuodd arafu wrth iddi gyrraedd ei hoff ddarn o’r goedwig. Y perthi trwchus o rhododendron ymledol yn gorffen, a’r coed deri yn newid i goedwig ffawydd, uchel ac eang a golau. Roedd hwn wastod ‘di bod yn le iddi ddianc ac anadlu – agoriad sydyn y goedwig i goed tal, tenau, prydferth yn agor ei henaid a’i hymenydd, a’r dail swnllyd sych dan ei thraed yn ymlacio’i thraed.

Se ddi ‘di bod ryw bedair ar ddeg oed pan ddaeth ma gynta, crwt bach trist, indie kid. Anodd oedd cofio. Pan ddaeth llencyndod go iawn, chwalodd stori ei bywyd fel darnau tywyll hen botel tsils. Roedd amseroedd yn y goedwig bach yn well. Nid yn berffaith. Nid hyd yn oed yn hapus, wir. Ond yn well.

Doedd hi ddim ‘di bod yma am sbel – unwaith neu ddwywaith ers ei thrawsnewidiad, a bryd hynny tua dechrau’r cyfnod. Roedd popeth mor ddisglair a newydd bryd hynny, dychwelyd i rywle oedd yn fwy real, yn llawnach o brydferthwch, achos tro ‘ma oedd hi wir yn bresennol ynddo. Roedd pobman fel yna pryd ‘ny. Gobeithiol. Tair mlynedd yn ôl oedd y tro dwetha iddi ddod fan hyn? Mwy?

Eisteddodd ar foncyff llyfn, gwyn hen goeden ffawydd syrthiedig ac edrych o’i chwmpas. Madarch du yn tyfu ar y pren. Rhagfyr. Roedd hi di colli’r cyfnod gorau, yr Hydref hwyr, pan oedd y dail eraill i gyd ‘di cwympo ond dal ymlaen oedd dail y ffawydd, dail copor tanbaid llachar. Roedd hi wastod di caru’r lliw, a syllodd ar eu carped ar lawr y goedwig. Dylse ddi roi henna yn ei gwallt eto. Daliodd ei breichiau yn dynn o’i cwmpas.

Roedd hi di colli’r Hydref a dyle ddi fod wedi dod â ffrind achos fan hyn, nawr, ar phen ei hun, roedd y teimlad gormod fel teimlad y gorffennol, pan oedd hwn yn lle i ddianc. Ffordd mâs oedd hi wedyn, ond nawr teimlodd y golau trwm yn cau fewn, yn mygu. Roedd y dail yn gopor dan ei thraed a madarch du ar y pren gwyn a roedd e’n brydferth, a’n drist, ac yn oer.

Naeth hi lefain am rai munudau.

*

Ar ochr arall y nant, daeth clogwyn mwdlyd i ddiwedd uwchben pyllau lleidiog, budr, coch, a dyma ble oedd y ffosils. Roedd hi di cerdded trwy’r nant, ar ôl colli balans ar y cerrig camu a llithro i’r dŵr pigog o oer. Da oedd cerdded trwy’r nant dideimlad rhynllyd, a gwyddodd hi fyddai’r siwrne nôl yn glanhau’r clai coch trwchus o’i converse. Roedd ei sgidie’n raddol suddo mewn i’r clai wrth iddi sefyll yn gwrcwd wrth waelod y glogwyn, yn pigo cerrig bach coch a’u golchi yn y pwll brwnt wrth ei hymyl, tra’n cadw golwg am y tywyllwch llyfn cain fyddai’n datguddio ymyl ryw ffosil o rhedyn. Fossilised fern. Gwell yn Saesneg, bron – cyseinedd da. Collodd teimlad ei bysedd, dau gymal uchaf pob bys yn troi’n felyn fel celain. Ond roedd ganddi pentwr o gerrig yn drysor, ac aeth lawr i’r afon i’w golchi, dwylo a traed wedi trochi yn y nant oer, pedwar eithaf ei chorff yn mynd yn raddol dideimlad yn y dŵr.

*

Ar ochor arall yr afon, yn eistedd eto ar y boncyff ffawydd, roedd hi’n anodd gweithio’r ffôn gyda’i bysedd cloff, ond llwyddodd ddanfon llunie’r tri ffosil gorau i Eve.

Regardez – fossilised ferns! Ma dwylo fi’n numb a traed fi’n oer. X

Atebodd Eve o fewn munud, nhw’n gorgeous. Faint mor hen?

Millions of years

u ok bby? Ble wyt ti x

Fi bach yn drist. Yn y goedwig.

Ti am dod draw a cael hangouttt?

Ok :,) alli di gael millions years old fern fel anrheg

*

Oriau wedyn, gyda’r goedwig yn dywyll a’n oerach fyth, gorweddai Cat ynghwsg ar wely ei ffrind, ei phen ar glun Eve, llaw Eve yn gorffwys yn ysgafn ar ei gwallt. Chwaraeai ddiwedd Romy and Michele’s High School Reunion ar laptop tua waelod y gwely.

Hen ffilm oedd hi’n arfer gwylio gyda’i chwaer, un o’i ffefrynnau. Doedd Eve byth wedi gweld hi, a roedd Cat wir moyn rhannu’r ffilm ‘da hi. Ar ôl i Cat dynnu ei dillad gwlyb a gwisgo pâr glân o byjamas gan Eve, dechreuon nhw wylio, ac o fewn hanner awr roedd Cat yn ymlacio ar ysgwydd ei ffrind. Roedd y ffilm digon cyfarwydd iddi wybod beth oedd yn digwydd heb gadw ei llygaid ar agor. Syrthiodd i gwsg cynnes, ei meddwl wedi lapio mewn cysur.

Rhwng y laptop a’r dwy ferch, gorweddai dwsin o gerrig bychain wedi gwasgaru ar dywel, rai gydag awgrymiadau ysgafn o ffosil tywyll ar eu hymylon, rai gyda ffrondau ysblennydd o rhedyn bychain yn ddarlun arnynt. Tywynnai llyfnrwydd tywyll y ffosils yng ngoleuni glas y sgrîn.

*            *            *

Tro cyntaf i Cat gwrdd ag Eve oedd prynhawn penderfyniad yr uchel lys, nôl yn Ebrill – yr un wnaeth ddeddfu yn sydyn bod merched traws ddim yn cyfri fel ‘merched’ rhagor. Yn y gwely gyda’i chariad, Lleucu, a’r incense yn torri trwy arogl llwyd y noson gynt, coffi yn eu dwylo, sgroliant eu ffonau i ddarganfod nad oedd un o’r ddwy ohonynt yn cyfri fel merched, ar Ynys Prydain a’i rhagynysoedd.

Ymateb Lleucu oedd ei bod wedi disgwyl y gwaethygiad yma, a gwaethygiadau pellach i ddod. Nid dyna’r cysur oedd Cat angen, ond roedd styfnigrwydd goddefol, blîn Lleucu wedi dod yn agwedd cyfarwydd o’u perthynas, perthynas fyddai’n dod i ben o fewn y mis. Penderfyniad Cat y diwrnod hwnnw oedd gwneud rhywbeth, ymladd rywsut, ac wrth iddi weld hysbysiad arlein o gyfarfod agored i gynllunio dathliadau Balchder lleol, penderfynnodd fynd. Arhosodd Lleucu yn ei gwely.

Erbyn i Cat agosau at y neuadd yn prynhawn, yn cerdded ar hyd y prom tua canol y ddinas, roedd cadernid pwrpas y bore wedi pylu, a teimlai’n oer er gwaetha’r haul tesog uwchben cymylau trymaidd canol Ebrill. Roedd ryw fwmian trwchus yn llenwi ei meddwl, fel twf trydan statig rhwng ei chorff a’i hymenydd. Gwnaeth ymdrech bendant i ffocysu ar ei synhwyrau. Arogl glaw y noson gynt yn codi o’r tarmac, ynghymysg â llwch o’r iard swnllyd lle roedd yr hen ganolfan siopa’n cael ei ddymchwel.

Pan eisteddodd Eve fel un o ryw ddeuddeg o gwmpas y bwrdd yn y cyfarfod cyhoeddus, nath Cat ddim clocio hi fel doll arall – jyst merch brydferth, flinedig braidd ei golwg. Dim ond ar ôl iddi ddechrau siarad sylwodd Cat bod hi’n draws. Dim bod ei llais hi’n clocky o gwbwl, jyst y cyfuniad hynny o bopeth cyfarwydd oedd yn gwneud iddi adnabod merch fel hi’i hun.

Roedd Eve wedi symud yn ddiweddar o Lundain – Cymraes o’r gogledd-ddwyrain, wedi troi nôl o’r ddinas fawr i fod yn agosach at natur ond am ddal gafael ar ryw fath o fywyd dinesig yn Ne Cymru. Esboniai fod hi di bod yn weithgar iawn ar y scene yn Llundain fel DJ a trefnydd nosweithiau clwb, byd cyffrous a phell i Cat. Roedd ei syniad hi, o drefnu noswaith fawr o DJs a bands yn blaenoriaethu merched traws, wedi cyffroi Cat – nid ei bod hi wedi siarad llawer yn y cyfarfod ei hun. Roedd hynny’n ddiwrnod lle roedd siarad yn uchel am fod yn ferch draws yn gwneud iddi deimlo’n noeth a’n fregus, fel sefyll mewn cawod o law asid. Ar ôl y cyfarfod concrodd Cat ei swildod a cerddodd yn betrus at Eve, oedd yn sefyll yng nghornel y stafell yn edrych at y rhesi o hen luniau o dimoedd rygbi yn casglu llwch.

‘Hi!’

Trodd Eve yn gyflym, a gwenu wrth adnabod y ferch o ben arall y bwrdd,

‘Hi doll, what’s up?’

‘Hi! Yeah. So you said you were keen on organising a gig or something? I’d love to help, I’ve honestly been looking for something like that to do, I think it could be so fun, really useful here too.’

‘Aw cute! Babe I would love some help with that! What’s your name, honey?’

‘Cat. Like Catrin, but I go by Cat.’

‘Ti’n siarad Cymraeg, Cat?’

‘Odw! Ti’n siarad Cymraeg?’

‘Ydw. Wel, ailddysgu really. Cymraeg shit ysgol, wedi anghofio rhan fwyaf, but I’m trying!’

‘Nai helpu os ti moyn?’

Gwenodd y ddwy, a cynhesodd y stafell.

*            *            *

Llwyddiant oedd y gig, a roedd trefnu’r peth wedi dod a grwp bach o ferched traws ifainc at ei gilydd. Ffeindiodd Cat hun fach gefnogol o’i chwmpas, ac wrth i’w pherthynas â Lleucu ddymchwel, daeth y cyfeillgarwch yma’n bwysicach fyth iddi. Yn enwedig gydag Eve. I ddechrau roedd Eve yn dychryn Cat braidd – gyda’i chysylltiadau Llundeinaidd, ei dealltwriaeth greddfol o beth oedd yn cwl, ei gallu cyson i basio heb i neb ei chlocio fel doll. Dodd Cat ddim yn deall pam fyddai Eve moyn hongian mas da ryw ferch draws nerdy, diffuant fel hi. Ond sylweddolodd cyn hir bod Eve jyst yr un mor nerdy a hi – rhannu obsesiynau od trwy danfon fideos Instagram heb esboniad, y llyfrau wedi hanner-darllen yn ei fflat anniben uwchben offlicence ar y Stryd Fawr, y nosweithiau ffilm nath y ddwy fwynhau da’i gilydd (hoff ffilm Eve oedd the Royal Tenenbaums). Ac yn yr un modd roedd Cat yn gweld yn Eve y pethau hoffai hi fod – mwy cwl, mwy ar y scene, pellach ymlaen yn ei thrawsnewidiad – daeth Cat i sylweddoli fod Eve yn gweld pethau tebyg ynddi hi – cysylltiad cryf i le, sefydlogrwydd emosiynol, a chyfeillgarwch ffyddlon, dwfn.

Yn hwyr yn yr haf, aethon nhw i forest rave roedd grwp o ffrindiau Llundain Eve wedi trefnu rwle yn nhwll tîn Cwm Nedd. Canhwylli llygaid Eve yn anferth yn y golau gwan ac o effaith yr MKat roedd y ddwy di bod yn sniffian, y ddwy wedi llechu o’r ddawns ar foncyff coeden binwydd wrth i’r haul fachlud dros y dyffryn plygiedig anferth.

‘Ti byth yn meddwl sut bydde ddi i fod yn normal?’ Cat yn dal sigaret heb ei chynnu, Eve yn edrych ar ei dwylo.

‘Ti’n meddwl fel bod yn cis?’

‘Ieeee... wel, na, dim rili. Sut bydde ddi i deimlo fel bo ti’n perthyn a bo ti’n iawn, bo ti’n hollol iawn? Like, odd bywyd fi gyd cyn transition fel y peth od, afreal ‘ma gyda ryw wacter yn y canol on i ddim hyd yn oed yn gwbod odd fanna. So o’n i’n mynd rownd fel normal, ond edrych nôl odd hi ddim yn fywyd real o gwbwl, y teimlad odd da fi trwy’r amser odd y teimlad weird, fucked-up na.’

‘Ie, dwi’n cofio bywyd fel na. Ond, was it really like that, really?’

Cariodd Cat ymlaen heb edrych ar Eve, wrth edrych ar y sigaret eto, ‘A nawr dwi jyst mor bresennol. Fi fan hyn fel on i byth yn gallu bod, cyn hyn. Ond sai’n gwbod os ma unrhyw sefyllfa fi’n ffitio mewn i. Sai’n gwbod sut fydde fe i fyw bywyd ble ti ddim wastod ar ymyl ryw fygythiad, t’gwbod? A ma ddi ddim fel bo unrhywbeth byth yn ffycin digwydd, t’gwbod? Jyst threat ar yr ymyl, pryd ti’n cael weird look, neu rwbeth – t’gwbod?’

‘Oh my God Mkat makes this girl chatty. Ond roedd hi wir fel yna, go iawn, yn y gorffennol?’

‘Beth... beth ti’n meddwl?’

Cymerodd Eve y sigaret o law Cat, roi ddi yn ei cheg gyda sigaret ei hun, cynnu’r ddwy, cymryd cwpwl o puffs a wedyn roi’r sigaret yng nghêg Cat. Siaradodd Eve eto:

‘Girl gwranda! You’re here but listen. Ti’n gwybod sut nes ti ddweud nes di deimlo cyn trawsnewid? Hynny oedd sut roedd hi wir yn teimlo, cynt? Neu dyna sut mae cynt yn teimlo nawr, o perspectif nawr?’

‘Di hynny’n gwneud gwahaniaeth?’

‘Dwi ddim yn gwybod. Like fi ambell waith yn wondero os di’r teimlad na o threat yn real. Os mae’r gorffennol yn teimlo’n unreal, couldn’t the present be?’

Trodd Cat i edrych ar ei ffrind,

‘Ti’n gallu meddwl fel ‘na, though, ma gen ti’r posibilrwydd o feddwl bod y bygythiad yn unreal. Ti’n super passing, ma’r bygythiad yn wahanol i ti.’

‘Dim bob tro. Ac anyway... mae’n teimlad, a dwi’n teimlo hi. Y bygythiad. Ond it’s not always proportionate to the level of threat, ydyw hi, felly mae rywbeth unreal am y peth.’

‘Fi’n credu fydd y bygythiad wastod yn teimlo’n unreal nes i nhw literally ddechrau ymosod arnyn ni.’

‘Real. Nai ymladd gyda ti, babe.’ Ymestynodd Eve ei braich o gwmpas ysgwyddau Cat, a closio ati yn y machlud coch.

‘Fi’n gwybod ,cariad.’

*            *            *

Y noswaith ar ôl iddi ddihuno yng ngwely Eve gyda’r ffosils wrth eu traed, roedd Cat yn sefyll ar stepen ddrws dau o’u ffrindiau ysgol. Bob blwyddyn, rownd Nadolig, roedd grwp ohonyn nhw’n cyfarfod. I ddechrau, mynd mas i’r dre am sesh bydde nhw’n neud, ond wrth i bawb raddol gwplu, setlo ac ymgartrefu wrth i’w tridegau fynd yn eu blaen (pawb ond am Cat), daeth i fod yn pryd o fwyd yn nhy un ohonynt. Tŷ un o’r ddau cwpwl gyda plant, fel arfer – Rhi a Dai, neu Jess a Ger.

Oedodd Cat ar y stepen ddrws, ac edrych o’i chwmpas. Roedd hi bach yn nerfus. Tŷ Jess a Ger oedd y lleoliad eleni, a Jess agorodd y drws.

‘Cat! Ti’n iawn, cariad? Oh my God ti’n edrych yn lush. Dere mewn!’

‘Hiya Jess – caru dy wallt. Neis i weld ti, gorgeous.’

Hygiodd y ddwy ar y stepen ddrws, a camodd Cat trwy’r trothwy.

‘Diolch Cat – ie mae di bod yn ages ers fi fynd am bob’

‘Aww mae wastod di siwto ti – fi’n falch bo’r bob di neud comeback.’

Cyntedd y neuadd yn llawn sgidie, meintiau gwahanol, sgidie dynion a menywod a plant wedi trefnu’n sylfaenol daclus ond rai go chwith, yn enwedig sgidie’r ymwelwyr – dim digon o le am daclusrwydd na threfn. Neuadd drawiadol, pinc tywyll ac aquamarine, falle paent sialc Annie Sloan. Cotiau wedi hongian yn drwchus ar y wal, hongiodd hi ei charidgan hir.

‘Babe mae’n rhewi mas fan na, pam sdim cot tidi da ti? God o ti byth yn arfer gwisgo cot yn ysgol nagot ti?’

‘On i byth yn lico cario nhw rownd, ti’n timlo bach yn dwym a wedyn ti’n cario ryw nonsens am ages. Like, never seemed worth it.’

‘Some things never change eh?’ gwenodd Jess yn ei ffordd cyfarwydd. Gwenodd Cat nôl, ond â gwefusau tenau,

‘Ha, ie. Some things!’

Dilynodd Cat Jess mewn i’r stafell fwyta, i’r cyfarch a’r dal fyny. Roedd hi’n brofiad hynod i weld ffrindie’i phlentyndod, cyfarwydd ond gwahanol. Tro dwetha iddi weld nhw oedd yn nhŷ Rhi a Dai dwy flynedd yn ôl, yn yr un digwyddiad – methodd hi llynedd, roedd hi bant yn gwella o lawdriniaeth. Y llinellau rownd llyged pawb bach yn ddyfnach nawr, a mwy o grychau ar bob talcen. Pawb yn heneiddio. Jess falle tamaid llai? Roedd hi di cael peth gwaith, botox fel pawb arall o’r merched, ond falle bach o filler yn ei bochau fyd? Gwaith da, odd hi’n edrych yn naturiol. Roedd Cat yn sylweddoli bod hi’i hun yn edrych yn ifancach na’r ran fwya o’i cyfoedion, nawr. The magic of HRT. Oedd hi dal yn cael ei gofyn am ID o dro i dro, odd hi’n arfer meddwl bo hwna achos odd hi’n clocky – dim nawr, though. Byse hi ddim yn gofyn neb fan hyn i ddangos ID. Oedd hi’n berson g wael am feddwl felly am ei ffrindie – arwynebol? Beth o nhw’n meddwl amdani hi?

Am deulu a swyddi oedd y sgwrs – ble oedd pawb yn byw nawr, beth oedd di digwydd dros y flwyddyn. Siâp bywyd heb ei sylwedd, sgerbwd hen gyfeillgarwch oedd yn raddol ffosileiddio mewn i adnabyddiaeth, ffurf rywbeth oedd unwaith yn fyw. Ystyriodd os fyddai hi’n nabod y bobol yma, hoffi’r bobol yma, heblaw am glymau y gorffennol yn eu dal at eu gilydd yn y ffurf yma.

Odd hi’n neis i weld pawb, odd hi rili yn, ond roedd ymlacio’n anodd. Ystyriodd camu mas am sigaret, ond jyst di cyrraedd oedd hi. Ro’n nhw’n bobol mor neis, o nhw wir yn, roedd hi di nabod nhw ers blynyddoedd, a nhw di nabod hi. Ond nathon nhw ddim wir nabod hi – jyst fersiwn ohoni, fersiwn gwrywaidd ohoni, neu... roedd e’n anodd i feddwl am, anoddach fyth i siarad am. A’r geirie se ddi’n defnyddio i drafod hynny, bydde rhaid iddi esbonio nhw, a bod yn agored ac yn noeth ag odd dim yr egni da ddi i siarad da nhw felna, heno.

Pryd oedd y tro dwetha iddi hongan mas da cymaint o bobol straight, cisgender? Pryd odd y tro dwetha oedd hi ddim basically jyst yn hongan mas da cwîars? Cymrodd ei ffôn mas a gweld neges o Eve:

hows it going cariad?

Teipiodd nôl, ok – teimlo kindof weird. Pawb yn neis ond cishet vibes save me pls. Ti moyn dod rownd hwyrach mlaen? a danfon y cyfeiriad.

‘Ti’n iawn Cat? Ti’n rili dawel.’ Ger oedd yn siarad.

‘Hm? O, ie odw diolch, paid becso. Jyst yn meddwl. Sori.’

Gwr Jess oedd Geraint. ‘Se Cat byth di roi’r ddau ‘na da’i gilydd, ond o nhw’n gweithio. Jess yn ferch ddeallus, yn greadigol, sbarcyn ynddi, ag odd Cat wastod di meddwl am Ger fel bach o jock, dim lot yn mynd mlaen. Ond o bell gwelodd Cat dŵf graddol ryw gariad dwfn rhwng y ddau, a darganfod, yn rhannol trwy ei chyfeillgarwch a Jess a’n rhannol drwy gweld y ddau bob blwyddyn yn y cinio Nadolig ‘ma, fod Ger yn ddyn anwyl, meddylgar, swil, a’i bod hi byth wedi ei nabod yn yr ysgol. Pan roedd hi’n gynnar yn ei thrawsnewidiad, y cyfnod lletchwith ‘ny, byddai Ger wastod yn gofyn am ei phrofiadau â chwilfrydedd go iawn, dim y pellter poleit gâth hi o’r ran fwyaf. Daeth diddordeb agored Ger, ei chwilfrydedd go-iawn yn ei phrofiadau a’i hunaniaeth, i’w chyffwrdd mewn ffordd dwfn mewn cyfnod cymhleth, anodd.

‘Sut ma gwaith, Ger? Sut ma’r busnes joinery?’

‘Ie gwd diolch Cat. Rili brysur. Dda i fod mewn demand.’ Gwên fach a codi ysgwyddau.

‘Jess yn iawn?’

‘Odi, ie, ma ddi’n iawn. Ok, t’gwbod?’

‘Ok?’

‘Wel, se fe’n neis os on i’n cael mwy o amser da’r plant. Childcare yn bryd, a gwaith Jess ddim yn talu lot ers yr Arts Council cuts. Mae’n meddwl falle bydd rhaid ddi gymryd step nôl o gwaith.’

‘O shit, ma hwna’n biti. Ma ddi mor dalentog!’

Artist oedd Jess, yn gweithio gyda gwydr lliw a cherflunwaith. Syllodd Ger lawr at y ford,

‘Ie, se wallte fi os on i’n gallu neud, ond fydde ni byth yn gallu byw ar ei incwm hi. A popeth yn mynd yn drytach trw’r amser. Ti byth yn...’

‘Beth, Ger?’

‘Ti’n becso am y dyfodol?’

Wrth i Cat feddwl, cymrodd Ger pecyn tybaco a dechrau rolio sigaret.

‘I mean, odw, Ger, trwy’r amser. Fi’n becso am y presennol, a ma’r dyfodol yn dod, a mae ddim fel petai bo merched fel fi yn cael eu croesawu mewn i’r dyfodol ‘ny, t’gwbod?’

‘Sai’n gwbod sut ti’n delio da hwna. Fi’n meddwl amdano ti lot, ti’n gwbod, Cat.’

Odd hi’n anodd i wybod beth i ddweud i sylwadau fel hyn. Oedd Ger wastod di bod yn anwyl a’n agored ‘da stwff fel hyn, felly nath Cat ymladd y tuedd amddiffynnol oedd wastod yn codi ynddi pan deimlai dan y chwyddwydr o bobl cis, ac ateb yn onest,

‘Mae’n anodd. Ond mae mil gwaith yn haws na byw fel o’r blaen. Mae fel.. mae’n anodd i gadw mlaen ymladd trw’r amser, ond ti’n ymladd am rheswm da? Fi di blino.. ond fi’n hapus.’

‘Gwd. Fi’n falch i glywed ‘ny, Cat.’

Wedi gorffen rowlio sigaret, edrychodd Ger at Cat â llygaid yn holi. Nodiodd Cat, a dechreuodd Ger rowlio ail sigaret.

‘Beth ti’n becso am, Ger?’

‘Ymm.. dim fi’n hunan, gymaint. Ma Jess di cael ei ups and downs, ond ni’n iawn, rili, ma da ni’r plant. Ond meddwl am y climate, a prisie bwyd yn mynd lan. Fi’n becso am y byd fydd da nhw pryd by nhw’n tyfu lan. Y flags na’n mynd lan dros y lle, y stwff anti-immigrant.’ Ochneidiodd Ger.

‘Nadolig llawen, eniwê.’ dwedodd Cat wrth chwerthin.

‘Ha ie Nadolig llawen! Ti moyn mwy o win?’

Edrychodd Cat ar ei gwydred gwag,

‘Na, ewn ni mas am ffag?’

*

Brithlaw mân yn bygwth wrth iddynt gysgodi yn y porth. Tywyllwch o gwmpas flach sydyn y tân wrth iddynt oeluo’u sigarets. Moment o dawelwch, wedyn Ger:

‘Ti’n cofio pryd o ni gyd yn mynd mewn i’r dre ryw fourteen? O ti wastod yn mynd yn bored a neud ni fynd llefydd stiwpid. Fel ar y breakwater, ti’n cofio hwna?’

‘Ffyc odw. On if fel “let’s just run the length of the breakwater” a nathon ni. Pawb yn eu sgidie smart!’ chwarddodd Cat.

‘Cofio ti’n gweud ini anadlu mewn trwy’r trwyn a mas drw’r ceg.’

‘Fel yn meditation. Cofio ‘ny.’

‘On i’n caru rhedeg dwyrnod ‘ny. Ti’n gwbod, that’s when I got into running? O ni gyd jyst… mewn grŵp, jyst rhedeg lawr y breakwater, yn yr haul, on i jyst fan na, ti’n gwbod? Jyst yn rhedeg ac anadlu a jyst… fan na. Ag on i moyn teimlo felny mwy. Odd pethe… on id dim rili’n hapus oedran ny.’

‘On i ddim yn gwbod ny. Dangoses ti fyth.’

‘Ie wel. Got into running then, didn’t I?’

‘Nes ti droi mewn i cymaint o jock, es ti’n rili sporty’

‘Nath e helpu. On i’n hapus, t’gwbod. Jyst bod fan na, rhedeg – ti’n gwbod y teimlad na le ti jyst yn neud rwbeth, jyst present, a ti jyst fan na. Biwtiffwl.’

Tynodd Cat ar ei sigaret, wedyn ei dal yn bell o’i cheg a’i braich wedi lledu. Edrych ar ei braich yn y golau tywyll.

‘Ges i fyth hwna. On i byth yn gallu teimlo felna nes y blynyddoedd dwetha, nes transition. A wedyn… fi’n gallu nawr. Dawnsio, a meditation, mae’n hyfryd.’

Tynnodd Cat yn ddwfn ar weddill ei sigaret, a wedyn codi ei throed fel flamingo a malu’r bonyn oedd yn weddill yn erbyn sawdl ei hesgid.

‘Odd hi’n anodd cyn ny, though?’

‘Ie. Suppose. Sai’n gwbod, it was the water I swam in, nage fe?’

‘Ie. Deall.’

Arhoson nhw’n dawel am gyfnod yn syllu mas i’r nos. O’u lle dan y porth, roedd hi’n anodd gweld os oedd y gwlypdra ysgafn eto di troi’n law. Wedyn, trwy’r tawelwch, yn ysgafn a’n hynod, cân aderyn. Robin goch, efallai, meddyliodd Cat. Cymrodd hi sigaret mas o’i paced o straights, yr ola yn y paced, a’i ddal heb danio yn edrych eto i’r tywyllwch.

‘Dyw hi byth… dyw hi ddim yn setlo, tywydd ma, nagi?’

‘Na. Nagi…’ llais Ger yn treulio i ffwrdd.

Daeth awel ysgafn yn gryfach, yn synnu’r ddau gyda’i oerfel. Tynhaeodd y ddau yn ei erbyn. Fyddai’r robin, os robin oedd, wedi gweld dau ffigur wedi crymu braidd, un yn drifftio gyda chyfeiriad y gwynt i gyffwrdd y llall, yn araf agosau.

Plygodd mewn i’w ysgwydd ef. Edrychon nhw at ei gilydd, llygaid ysgafnlas Ger yn aneglur yn y tywyllwch.

‘Sefyll yn erbyn y gwynt tra bo fi’n tanio’r ffag?’

‘Siwr, iep.’

Cwtsiodd yn ei erbyn a cynnu.

‘Ti moyn rhannu?’

Edrychodd Ger i lawr ar y sigaret ‘di cynnu ac ystyried am foment, cyn i’w lygaid lithro draw i’r drws.

‘Ymm… na, ti’n iawn. Gweld ti tu fewn.’

‘Gweld ti tu fewn.’

Gorffennodd hi’r sigaret mewn tawelwch.

*

Nôl mewn, aeth eto i wrando mwy na siarad, ond roedd ei sylw hi’n ffrwtian. Twf y gwin o’i bol i’w ymenydd yn meddalu ei synhwyrau, yn dadmer ei hunanymwybyddiaeth. Edrychodd lan at y fairy lights yn tywynnu o gwmpas y mantelpiece, a gwrando i sŵn y sgyrsio heb ei sylwedd. Teimlad cyfarwydd amser Nadolig – cyfarwydd, ond nid cysurus. Teulu cymhleth. Gorffennol cymhleth.

Ond setlodd, a siarad, a dal lan ‘da pawb. Sgwrsio ac yfed a goleuadau Nadolig a cherddoriaeth Nadolig. Pan gyrrhaeddodd Eve roedd tamaid o ddawnsio yn mynd mlaen yn y gegin, Jess yn feddw tsils a Cat ddim yn bell ar ei hôl, yn twercio i Christmas Wrapping. Rhedodd Cat lan i’w ffrind a’i hygio’n gryf,

‘Babe! Ti di dod!’

‘Haia cariad – been having a fun night?’

‘Hahaha ieeee,’ rhodd Cat hug arall i’w ffrind – ‘dere ma i gwrdd a ffrindie fi!!’

‘Ok drunky’ cusanodd Eve hi ar ei boch, a penderfynnodd Cat dylen nhw gylchu’r gegin a’r stafell fwyta yn cyfarfod pawb mewn steil y frenhines yn cyfarch ei phobol – Cat yn cyflwyno Eve, nhw’n moesymgrymu neu’n gwneud curtsey, y ddwy yn chwerthin ac yn symud ymlaen. Wrth i Eve ddod i nabod pawb, daeth awydd ar Cat i ddawnsio eto, ac aeth hi a Jess ati yng nghanol y gegin tra bod Eve yn sgyrsio ar yr ymylon gyda Rhi a Ger. Ar ôl tipyn, daeth penderfyniad i adael y tŷ a mynd mas i’r dref, ‘for old time’s sake’, ac er i Cat gofio talpiau sylweddol o ddigwyddiadau pellach, yn cynnwys cymryd Mkat yn y tai bach gyda Eve a Ger, darniog ar y gorau oedd ei côf o’r nosweth wedyn.

*            *            *

Ar ôl Nadolig, y flwyddyn newydd. Roedd Eve wedi trefnu noson fawr gwîar yn nhafarn ar ochre gogleddol y dref, ger yr orsaf. Eve wnaeth Djo’r set gyntaf, ond ar ôl ny roedd hi’n ddisylw braidd, mwy o ddiddordeb yn ei ffôn nag yn y parti. Teimlai Cat, oedd yn tueddu glynu’n agos i’w ffrindiau ar nosweithiau fel hyn, bach yn unig ac yn ansicr, a benodd lan mynd yn eitha fucked up, ar ddiod mwy na dim. Snogiodd hi ryw enby oedd hi braidd yn nabod mewn ciwbicl tŷ bach mochedd, nath ddiweddu lan yn dal ei gwallt nôl wrth iddi chwydu mewn i’r un tŷ bach. Roedd prynhawn y cyntaf o Ionawr yn brofiad truenus, llawn cywilydd. Wrth orwedd ar ei gwely yng nghanol cylch o Haribos, Doritos, a potel dwy-litre o Lucozade, tyngodd Cat na fyddai’n yfed drwy Ionawr. Daeth neges o Eve,

Blwyddyn Newydd Dda bby – u ok? Messy girl neithiwr ;)

a’n fuan wedyn, un o Ger,

Blwyddyn Newydd Dda Cat – mor neis i weld ti cyn Nadolig. Fi mor hapus i gael ti fel ffrind x

ond odd Cat yn teimlo rhy shit i ymateb i neb.

*

I wireddu ei adduned, braidd âth hi unrhywle yn ystod Ionawr. Roedd hi dderchrau Chwefror cyn iddi hongian mas ‘da Eve eto. Penblwydd Karlie oedd hi, un o’r merched nath helpu Cat ac Eve drefnu’r gig, a roedd Karlie a Ffi, merch draws arall naeth helpu mas a cariad newydd Karlie, yn dod i fflat Eve am predrinks. Gofynodd Eve i Cat droi lan bach yn gynharach. Roedd y laptop yn chwarae albwm Anita Velveeta, Liquid Gold, a Cat yn gorwedd ar y gwely yn y sŵn gyda’i phen wyneb i waered, yn gwylio’r ferch arall yn gorffen ei cholur. Meddyliai Cat pa mor hynod oedd hi i weld gwynebau pobl wyneb i waered – gweld yr onglau a’r esgyrn a’r gofodau ar wedd newydd, cyfarwydd ond estron. Roedd Eve mor brydferth – llygaid mawr, tywyll, esgyrn ei bochau fel llafnau hir, llyfn. A’i gên, o’r ongl yma, yn fach uwchlaw, ond tamaid bach, bach yn asymetrig – ciwt.

Wrth i Eve ffocysu ar amlinellu’i llygaid, dywedodd,

‘So nes i hongian allan gyda ffrind ti Ger eto.’

‘Beth?’ crychodd Cat ei aeliau, ‘Random. Rili?’

‘Ie.’

‘On i ddim yn gwybod odd y ddou o chi hyd yn oed di siarad gymte ny.’

‘Na… wel dim loads. Ond nath ni rhannu Instas, a nath e danfon neges wedyn. A wedyn nath e pingio fi ar Feeld, just in case it wasn’t clear.’

‘Ma Ger ar Feeld? What the fuck?’

‘Dim profile pic, ac enw gwahanol, ond ie, fo ‘di o. A... ni di cwrdd fyny cwpwl o weithiau.’

Trodd Cat o’i chefn a codi’i phen i wynebu Eve.

‘Be ti’n gweud i fi? Bo chi’ch dou’n ffycio?’

Trodd Eve i’w gwynebu,

‘Ni di hookio fyny, cwpwl o weithiau. Dwi’m yn meddwl fod y peth yn serious iawn.’

‘Ddim yn serious?’ edrychodd Cat at ei ffrind am gwpwl o eiliadau cyn eistedd lan ar ei gliniau, ‘Eve, mae’n briod – mae’n briod i un o ffrindie fi. Ma fe’n ffrind i fi hefyd. Ma plant da nhw.’

‘Ie. Look.. babe... dyna pam nes i feddwl ddylen i ddweud. Look, I don’t feel good about this, really. Ond roedd o’n rili keen.’ trodd Eve nôl tua’r drych.

‘Sai’n gwbod beth i ddweud.’

‘Plîs paid bod yn flin ‘da fi. Dwi ddim am i hyn effeithio friendship ni.’

Edrychodd Cat tuag at gefn Eve, lawr at y gwely, at ei dwylo, wedyn nôl lan at Eve, oedd wedi troi eto i’w gwynebu. Daeth ryw hymian fel static i gefn ei phen.

‘Sai’n gwbod beth i ddweud.’

‘Ok.’ dwedodd Eve, ‘Hynny’n ok, gewn ni siarad am hyn fwy pan ti’n gwybod beth ti eisiau dweud.’

Roedd tawelwch rhwng y ddwy.

Canodd ffôn Eve.

‘Karlie a Ffi di cyrraedd. Look, Cat, os mae’n ok, paid dweud unrhywbeth i nhw am hwn? Gewn ni gadw’r peth rhwng y ddwy o ni?’

Atebodd Cat ddim, jyst edrych ar y cloc ar y wal, felly aeth Eve lawr i ateb y drws.

*

Ar ôl i’r merched arall gyrraedd, cafodd y naws lletchwith yn y stafell ei briodoli i fis Cat o sobrwydd. A mewn gwirionedd, efallai bo hwna’n ran o’r peth? Nath hi’n sicr llacio tamaid bach ar ôl cwpwl o ddiodydd, ond eisteddodd datguddiad Eve yn ei meddwl mewn ffordd oedd yn drysu – yn drwm, ond yn ffitio, fel petai ddi di bod yn disgwyl y peth. A doedd hi ddim wir eisiau meddwl amdano na phoeni’r peth, jyst ei adael i eistedd yng nghefn ei meddwl. Noson fawr oedd hwn i fod, noson o hwyl.

Sut oedd Eve yn disgwyl iddi ddelio ‘da hwn? Beth oedd hi’n neud, jyst dod mas a hongan mas gyda’i hen ffrindie ond wedyn jyst hookio lan dros ffiniau cyfeillgarwch, dros ffiniau priodas? Oedd hi actually’n meddwl bo hwna’n ok? Na, wrth gwrs odd hi ddim, neu se ddi ddim di siarad am y peth gyda Cat fel ‘na. A t’gwbod beth, fuck it, gall hi neud beth odd hi moyn, ond beth odd hwna’n meddwl i’r ddwy o nhw? Sylweddolodd bod Karlie’n edrych ati, a jyst di cwpla siarad am rwbeth.

‘Sorry girl what?’

‘Oh my god babe you’re totally zoned out. You ok?’

‘No, yeah, I’m fine. Just a little – look can I have another one of those cocktail cans?’

‘Sure!’ neidiodd Karlie bant o’r gwely, pengliniau at ei gilydd, o’i chwrcwd i sefyll mewn un symudiad wrth i’r gwely siglo, rhedeg fel ebol i’r oergell a wedyn nedio nôl ar y gwely, ‘d’you want the Passionfruit Martini or the Mai Tai?’

‘Don’t mind!’ gwenodd Cat. Estynnodd Karlie’r un Passionfruit i Cat, ‘I really like the Mai Tai ones so I’m happy you don’t mind.’

‘Mae ddi’n cadw’r un Mai Tai am bo’r rai passionfruit yn minging!’ gwaeddodd Ffi i fyny o’r llawr, le oedd hi’n gorwedd ar mat croen dafad gyda’i phen ar glustog. Cerddodd Karlie ati ddi a sefyll drosti, a plygu lawr i wynebu’r ferch llai â llygaid caled:

‘They’re not minging. They’re fine.’

‘They’ve got an aftertaste like fake vegan pepperoni. They’re fucking hanging.’ propiodd Ffi ei hun lan ar ei phenelinoedd a symud yn agos at Karlie, ei gwyneb yn ffug-ddifrifol.

‘You’re fucking hanging.’ Karlie, yn dod a’i gwyneb yn nes.

‘Honest it’s fine, I like them!’ dwedodd Cat, ond roedd Karlie a Ffi yn cusanu’n barod.

Edrychodd Eve i ffwrdd o’i ffôn at y ddwy ar y llawr, a rowlio’i llygaid,

‘Lesbiiiiiiinaaaaaaas!’

Chwarddodd Cat, edrych lan a cyfarfod llygaid Eve. Gwenodd Eve. Edrychodd Cat yn gyflym nôl at y ddwy ferch ar y llawr, a trodd Eve nôl at ei ffôn.

*

Wrth iddyn nhw adael y fflat i gerdded i’r clwb, daeth Karlie at Cat a sibrwd iddi:

‘So now you’re off the wagon, doll, do you want to join for more than drinks?’

‘Like what? What have you got?’

‘Well Ffi’s taken some 2C-B already, and she’s vibing with thaaaaat, and I’m going to do a bit of Mandy.’

Doedd Cat ddim yn bwriadu cymryd dim heno. Ond, i fod yn hollol onest, roedd hi eitha ffansio newid ei sefyllfa meddyliol tamaid bach – byddai MDMA yn clirio’i ymenydd braidd, gadael bach o oleuni mewn. Cyffur gwirionedd oedd Mandy, a rodd hi’n gwybod se ddi’n conffryntio Eve am sut oedd hi’n teimlo am hi a Ger a popeth – unwaith fydde hi’n gweithio mas sut odd hi’i hunan yn teimlo am y sefyllfa. Se cyffuriau probably’n helpu a hwna hefyd.

‘Yeah. YEAH! I’ll join you! Can I have some Mandy please. Os gwelwch yn dda.’

Gwaeddodd Karlie ‘IECHYD DA TRANSSEXUAL’ wrth i’r ddwy gymryd hanner pilsen yr un gyda swig o goctêl.

*

Cyn dafarn mawr hen-ffasiwn oedd y clwb, oedd nawr yn gwasanaethu cwiars mwy na neb, lan sha ochor tsiep y dre ar bwys yr orsaf rheilffordd. Wrth i Cat gerdded mewn yng nghwmni’r merched eraill, daeth llacder mwyn i’w hysgwyddau. Faint o weithiau yn y gorffennol oedd hi di cerdded mewn i ryw glwb nos a teimlo mas o le, fel nad oedd ei bodolaeth yn gyson â rheolau’r bydysawd? Ond nawr wrth i’r pedair ohonynt gerdded mewn da’i gilydd, roedd hi’n ran o ryw undod, wedi’i cwmpasu gan gariad. Roedd y bar yn y blaen llawn cwîars, a gwelodd Cat merch oedd hi’n nabod, chwifio arni. Gwnaeth y ferch calon fach gyda’i bysedd at Cat. Symudodd y pedair ohonynt tua’r llawr ddawns a’r sŵn techno caled rownd y cornel.

Pedair ohonynt. Roedd Cat di nabod Ffi am gwpwl o flynydde. Odd hi’n gorjys, yn petite, yn hollol unclockable, yn dod o’r Gogledd, o Ynys Môn. Nath y ddwy gwrdd drwy’r brifysgol, le astudiodd Ffi swoleg – merch glyfar, nawr yn gweithio fel masseuse gyda swyddfa fach ei hun. Roedd hi a Karlie di bod yn gweld ei gilydd ers cwpwl o fisoedd nawr. Roedd Karlie jyst yn beiriant cymdeithasol, arweinydd y parti, ag oedd Cat wastod yn bwydo bant o’i egni. Pan weindiodd Karlie lan da Ffi – Karlie’n dal a’n osgeiddig, Ffi yn fach ac yn bert, synhwyrodd Cat iawnder y peth yn ddwfn – roedd y ddwy yn ffitio’i gilydd yn berffaith. Ond teimlad o iawnder oedd ynghymysg â chenfigen ysgafn, melys – dim fel petai hi, Cat, yn mynd i ffitio gyda Ffi na Karlie, se ddi ddim yn ffitio mewn. Nhw oedd yn ffitio gyda’i gilydd. Ond roedd hi wir yn dymuno bod yn un darn jig-so fyddai’n ffitio gyda llall mewn ffordd mor boddhaol, cydlynol.

Sylweddolodd Cat bod hi’n ffyc o high.

Beth oedd hi moyn? Odd hi moyn colli’i hun yng nghwmni eraill, toddi ei bodolaeth mewn i fôr o gysylltiadau, i fod yn ran o’r cefnfor, nid ar ei phen ei hun ar y traeth.

Falle odd hi jyst angen ffyc.

Ger ac Eve yn ffycio. Roedd hi’n barod i feddwl am hwna nawr. Llai na blwyddyn oedd hi di nabod y ferch ma. A dros y flwyddyn na, roedd Cat di teimlo bo hi o’r diwedd di cyfarfod y ferch alle ddi edrych lan i, fel chwaer fawr. Roedd nabod hi ‘di roi hyder i Cat. Ag odd hi’n meddwl alle ddi edrych lan at Eve – odd hi wir di meddwl hwna.

O nhw gyd yn dawnsio nawr, pedair mewn cylch. Na, pump – y ferch na o’r bar di ymuno ‘da nhw. Beth odd enw hi? Eitha ifanc, ugeiniau cynnar, eitha hunanymwybodol. Ffi draw i’r chwith yn neud ei dywlo ethereal a’i llygaid mawr – anwyl iawn, wholesome iawn. A wedyn Karlie yn damsglyd rownd yn ei ffordd dykey, fel stegosaurus yn stompio. Wedyn Eve yn dawnsio’n esmwyth yn y ffordd oedd hi’n neud, ei llygaid yn crwydro dros y stafell. Gwyrodd Cat tuag at ei chlust,

‘Fi rili di siomi da ti, Eve.’

Edrychodd Eve syth at Cat gyda’i llygaid yn sganio, cyn edrych lawr i’r llawr, a wedyn i’w llygaid eto yn esmwythach,

‘Cat gawn ni ddim gwneud hwn right nawr, babe? Can we not bring each other down? Gawn ni jyst dawnsio?’

Iawn. Dawnsio. Blas y chewing gum yn ei cheg, cnoi cnoi cnoi. Symudodd Cat a theimlo’i chorff, yn onest ac yn gyfiawn. Roedd hi’n gallu cyfleu ei holl bodolaeth drwy symudiad – cariad, a phresenoldeb, a gwirionedd. A thristwch, hefyd. A siom.

Estynodd Ffi tuag at Cat, a gosod ei cheg ger ei chlust,

‘Cat, pam ti’n dawnsio mor weird?’

*

Ar ol tipyn, wrth i Cat barhau i ddawnsio, aeth ei meddwl, a’i golwg o dro i dro, nôl tuag at Eve. Gwelodd hi mor debyg i hi’i hun, daeth ton o drugaredd a chariad ati, ond yr angen eto i fod yn hollol, noeth o onest. Gwelodd Eve yn gadael y llawr am y gofod smygu, a penderfynnodd ddilyn.

Yn yr iard tu allan, cymrodd Eve sigaret o’r pacyn o straights yn ei bag a wedyn gweld Cat yn cerdded ati. Cododd ei aeliau fel cwestiwn. Nodiodd Cat.

Gosododd Eve dwy sigaret yn ei cheg a cynnu’r ddwy, cyn estyn un ohonynt i geg Cat. Smygodd y ddwy mewn tawelwch am dipyn yn pwyso ochr-yn-ochr yn erbyn y wal frics. Teimlodd Cat oerfel y wal dan cledr ei llaw chwith, a wedyn aeth i rhwto’r brics garw â symudiadau anesmwyth, nôl a mlaen. Gwthiodd ei hun i ffwrdd o’r wal, a troi i wynebu Eve:

‘Ti’n gwbod bod Jess yn ffrind, ie? Fi di nabod y ddau o nhw ers ysgol. Ma plant da nhw.’

‘Fi’n gwybod. Ni’n siarad am ti lot, ti’n gwybod. Ma Ger rili yn hoffi ti. Yn edrych fyny i ti.’

‘Ie, wel. Sai’n gwbod.. sai’n becso am hwna. Fuck. Eve, dyw hwn ddim yn neis i fi! FUCK! EVE!’

Cymrodd Eve cam i ffwrdd. Anadlodd Cat yn ddwfn cwpwl o weithiau.

‘I’m sorry, girl.’ dwedodd Eve. Roedd hi’n edrych di ofni braidd. Llygaid lled agored. Roedd angen i Cat ei chysuro. Daeth sŵn pwno trwm y miwsig o tu fewn nôl mewn i’w hymwybyddiaeth. Syllodd y ddwy at ei gilydd, a cymerodd Cat gam araf at Eve. Nesodd Eve at ysgwydd Cat. Edrychodd Cat lawr at ei hysgwydd, croen tywyll Eve yn erbyn croen gwelw Cat, croen oer yn erbyn ei chroen twym. Edrychodd ymhellach lawr at y llawr, cwpanau plastig brwnt gwag wedi stacio, ambell un wedi malu a’n wasgar ymysg bônau sigarets. Tynnodd i ffwrdd a gwynebu eto.

‘Sai’n gallu rheoli beth ti’n neud, Eve. A... sai’n meddwl bo ti... fi’n meddwl, sai’n deall pam ti moyn... sai’n gwbod.’

Camodd Eve tuag ati eto a dal breichiau ucha Cat yn gadarn yn ei dwylo, yn edrych yn syth i’w llygaid. Canhwyllau llygaid y ddwy wedi lledaenu, yn adlewyrchu at ei gilydd y golau gwan o’r drysau tân.

‘Cat dwi ddim am gwneud dolur iti. Dwi am edrych ar dy ôl di, babe. Ni’n edrych ar ôl ein gilydd.’

Roedd ei llygaid yn tyfu wrth iddynt agosau. Roedd y gusan, i ddechrau, yn gyffyrddiad ysgafn ac ansicr, cyn agor mewn i archwiliad cadarn a phendant. Blasodd Cat mwg, lemonêd, a wedyn blas dyfnach y ferch arall dan rheiny.

Cofleidiodd y ddwy am gyfnod hir, y naill a’r llall yn dal ei gilydd a’r foment. Cat dynnodd bant yn gyntaf, a syllu eto am gyfnod i lygaid Eve yn sgleinio, eurgylch tenau o frown o gwmpas canhwyllau du, tywyll.

‘Fi’n credu odd hwn yn gamgymeriad. Sai... sai’n credu fi moyn neud hwn eto.’

Roedd llais Cat yn isel a bron fel sibrwd. Aeth llacder i’w chymalau, ei breichiau’n hir, yn tynnu hi i’w phresenoldeb ei hun â blinder maith, anferth.

Nodiodd Eve a chadw golwg Cat, cyn troi heb air a cherdded nôl fewn drwy’r allanfa dân.

*            *            *

Safai wrth yr afon, yn edrych tua’r aber a’r môr. Daeth y glaw mân yn raddol o’r môr wrth iddi syllu. Aeth ei gwallt yn rhibynnau tamp, trwchus, yn arddangos llinell ei thalcen uchel. Roedd gwres yr MDMA wedi pylu, braidd, er bod prician y glaw ar ei gwyneb a’i dwylo’n cosi’n fwyn. Ochneidiodd wrth dynnu ei chardigan gwlân yn agosach amdani a dal pennau ei sgarff i’w tynhau. Anadlodd. Llifodd y dŵr o’i blaen tua’r morglawdd, yn halltu wrth ddiflannnu i’r môr. Meddyliodd Cat am y mynyddoedd at ei chefn, y gweundiroedd tywyll.

Gallai gerdded nôl i’w fflat ar hyd y bae. Ond roedd yr hen ganolfan siopa wedi ei ddymchwel, se’r llwybr na’n dywyll heb oleuadau stryd. Peryglus. Teimlodd ei gwallt llipa a chodi ei sgarff i orchuddio’i phen. Cofiodd bod ei bag dal yn fflat Eve, mewn pentwr gyda pethau Karlie a Ffi.

Trôdd yn araf i gerdded nôl tua’r dre, wrth ddechrau ystyried y geiriau byddai’n dweud wrth Eve, a dychmygu siâp eu perthynas y bore wedyn.